P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i mewn i ran Cadw yn y broses o roi caniatâd cynllunio i adeiladau rhestredig er mwyn gwneud gwaith addasu i eglwysi. Mae hyn yn rhwystro cynulleidfaoedd gweithgar a hyfyw rhag defnyddio adeiladau rhestredig yng Nghymru a, thrwy hynny, cânt eu cadw mewn cyflwr o inertia pensaernïol: nid ydynt yn gallu elwa ar ddatblygiadau modern mewn deunyddiau adeiladu, ac mae’n anodd i eglwysi wneud y newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddynt wasanaethau’r genhedlaeth nesaf a’r gymuned leol.

 

Cynigwyd gan: Graham John

 

Nifer y llofnodion: 147

 

Ystyriwyd am y tro cyntaf:Mehefin 2011